
Professional dance in the community
We are looking to grow our pack of Fabulous Animals
FABULOUS ANIMALS
Ydych chi’n artist corfforol / perfformiwr / dawnsiwr yn medru gwneud gwaith byr-fyfyr? Neu’n artist gyda diddordeb mewn defnyddio’ch corff i ysbrydoli gwaith?
Mae Joon Dance yn chwilio am hyd at 18 artist i gymryd rhan mewn cwrs o 6 sesiwn somatig, fel man cychwyn i greu gwaith perfformio newydd. Ar ôl prosiect ymchwil unigol Zosia, 2019/20 rydym yn bwriadu newid y symbyliad. Defnyddiwn ddychymyg ac ymwybyddiaeth y corff i greu teimlad byw o ymgnawdoliad mewn corff anifail, sydd ar yr un pryd wedi’i ymgnawdoli a hefyd yn chwedlonol. Yn fras, rydym ni’n chwarae (o ddifri) bod yn anifaeliaid! Wedi’i datblygu yn y lle cyntaf i fod yn ymarferiad ecoffemenistaidd i ailwylltio, mae’n anelu at hawlio’r corff yn ôl o gonfensiynau rhywedd ac i alluogi’r symudwr i wneud dewisiadau ynghylch sut maen nhw’n bodoli mewn gofod. Mae hi am bleser, pŵer, greddf a gorffwys creiddiol. Fel ymarferiad rydym wedi’i gweld hi’n drawsnewidiol ac rydym yn ei gweld hi’n gyforiog â photensial perfformio. Byddwn ni’n ymarfer y sgôr mewn sesiwn Zoom wythnosol, yn symud ac yn dylunio mewn ffyrdd agored ac unigol, ac wedyn yn trafod ein profiadau.
Ar ddiwedd y broses gwahoddwn nifer o bobl i barhau yn y broses o greu Fabulous Animal gyda ni. Gall hyn fod fel performwyr yn y sioe fyw, neu fel cydweithwyr mewn ffilm fer. Hwyrach, yn ystod y broses gewch chi syniad rydych eisiau mynd ar ei ôl a gallwn eich cefnogi ynddo. Hwyrach bod hi’n well gyda chi ymuno er mwyn eich datblygiad personol neu broffesiynol, sydd hefyd yn iawn. Rwyf am i hyn fod yn broses organig i ni i gyd. Dydyn ni ddim yn cychwyn gyda syniadau cadarn o ble byddwn ni erbyn y diwedd. Mae’r chwech wythnos hyn i chi, ac mae beth sy’n digwydd wedyn i’w drafod gyda ni pan byddwn ni’n cyrraedd.
Sesiynau: Bob dydd Llun, Mai 30ain - Gorffenaf 4ydd, 10am - 11.30am
CROESO I BOB RHYWEDD. Rhoir blaenoriaeth i Gymry ac i berformwyr â’u gwaith yng Nghymru.
“Er ‘mod i’n gwybod (o brofiad personol) gall y prosiect hwn apelio a bod o les penodol i ferched, pobl anneuol, a phobl LGBTQ++, dydw i ddim am eithrio na gwneud enghraifft o neb, a dw i’n cydnabod bydd pobl ‘falle eisiau adfeddiannu eu cyrff am resymau gwahanol. ‘Dyn ni’n gobeithio rhoi cast amrywiol at eu gilydd. Mae croeso i unrhyw un cyn belled â’u bod nhw’n agored. Fydd y perfformiad hefyd DDIM am hanes y perfformwyr nac yn tynnu ar eu hanesion, gwell gen i wneud gwaith o le diogel a chydradd, ac anelu at greu iwtopia llawen, cwiyr gwyllt ar y llwyfan. Zosia x”
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd ydi hi fel artist llawrydd i neilltuo amser ar gyfer datblygu a hyfforddiant, felly fe dalwn ni artistiaid a gwahoddir tâl o £40 y sesiwn.
Os ydych chi am gymryd rhran yn y cwrs llenwch y ffurflen syml hon i wneud cais os gwelwch yn dda:
Dyddiad cau 09/05/22
Fabulous Animals - performance and design workshop for young people aged 9-14
Joon Dance’s Fabulous Animals is a show about humans being inspired by animals to take care of their environment, move more freely and have more fun. We use imagination and imagery to become animals and get wild! Ahead of the show coming to Chapter in May, we invite you to try out the dances for yourself, and even create your own Fabulous Animal costume. A week of moving, making and creating.
Ages 9-14 welcome
No experience of dance, arts or crafts necessary
11th - 15th April 10-1 daily
Chapter Arts Centre
£75 full price
£60 concession / 2 siblings
£55 3 siblings
*Early bird discount- book before February 28th and get £5 off